Cadwgan
Ystafell ddwbl yn nhy gwreiddiol yr harbwrfeistr yn edrych dros yr harbwr ar yr ail lawr. Dringwch y grisiau tro rhestredig arbennig i'r ail lawr.
Golygfeydd hyfryd drwy'r ffenestri Sioraidd yn enwedig ffenestri'r ystafell ymolchi – ty bach gyda golygfa hyfryd! Mae'r waliau cerrig a charthenni Melin Tregwynt yn rhoi teimlad cynnes iawn i'r ystafell. Gall yr ystafell gael ei pharatoi gyda dau wely os dymunwch a hefyd mae'n cysylltu gyda'r ystafell sengl fechan, sy'n gret ar gyfer teulu neu ffrind.
Adnoddau yn cynnwys; golygfa harbwr; gwely superking; soffa fach; teledu; DVD; bath gyda chawod; ty bach; adnoddau Molton Brown; carthen Melin Tregwynt; adnoddau gwneud te a choffi; gynnau a sliperi; haearn smwddio a bwrdd; sychwr gwallt; wi fi.
Dwbl gyda baddon a chawod
(Ty gwreiddiol yr Harbwrfeistr gyda golygfa harbwr: 2il lawr).
Tariff 2010
GaB
£130 - £150
(tymor isel – tymor brig)
SgaB
£180 - £200
(tymor isel – tymor brig)
Ystafelloedd dau wely atodiad: £10.00 y noson ychwanegol.
Tariff 2011
GaB
£130 - £155
(tymor isel – tymor brig)
SgaB
£180 - £205
(tymor isel – tymor brig)
Ystafelloedd dau wely atodiad: £10.00 y noson ychwanegol.
Oriel
Cliciwch ar unrhyw lun i'w chwyddo.